This is the Message Centre for Downings

Hen Foi Ystalyfera

Post 1

Huw B

Es i i Ystalyfera rhwng 1982-1989. Shwd mae pethau 'na nawr?

O 1982-1984 hi oedd yr unig Ysgol Gyfun Ddwyieithog yng Ngorllewin Morgannwg cyn iddyn nhw agor yr ysgol yng Ngwyr (lle aeth fy mrodyr iau). Roeddwn i yn teithio 2 awr y dydd ar fws o Borth Talbot a nôl - ddim yn hwylus!

Sgwn i sawl athro sydd yna nawr fydden i'n nabod? Ydi Lawlor, Tiplady neu Daniels yn dysgu Mathamateg? Ydi Mrs Halsall enfawr dal yn dysgu Daearyddiaeth?

Os wyt ti erioed yn edrych ar y dudalen hon eto fe fydden ni'n hoffi gwybod.

Hwyl!


Hen Foi Ystalyfera

Post 2

Downings

Helo o Downings. Mae'n dda iawn i gwrdd rhywun arall a aeth i Ystalyfera. Mae'n ddrwg gen i fy mod i ddim wedi dy ateb am ychydig amser, rydw i wedi bod iffwrdd. Mae Mrs Halsall dal yn dysgu Daearyddiaeth ac mae dal mor fawr ac oedd hi yn 1982 (os nad hyd yn od yn dewach) ac mae Mr Daniels dal yn dysgu mathemateg. Does braidd dim wedi newid yno am o leia hanner canrif (oedd Mrs Lloyd erioed wedi siarad i ti am T.Llew.Jones yn Llangranog?). Diolch am ysgrifennu.


Key: Complain about this post

More Conversations for Downings

Write an Entry

"The Hitchhiker's Guide to the Galaxy is a wholly remarkable book. It has been compiled and recompiled many times and under many different editorships. It contains contributions from countless numbers of travellers and researchers."

Write an entry
Read more