This is the Message Centre for Huw B

S'mae, Huw?

Post 1

Arianwen

Haiya, Huw! Wyt ti wedi edrych mewn i dod a'r dau erthygl Cymraeg at eu gilydd eto? Mi geisiais i anfon e-bost atat ti, ond roedd 'na broblem gyda'r system neu rhywbeth a ges i error message 'nol. Felly, os allet ti rhoi wybod i fi beth sy'n mynd 'mlaen gyda'r holl beth mi fydden i'n gwerthfawrogi hynny.

BarCode.


S'mae, Huw?

Post 2

Huw B

Mae arholiad 'da fi ar yr 11fed ac wedyn rwy'n cael penwythnos hir i atgyfnerthu!
Rwy'n bwriadu anfon yr erthygl drwodd cyn pen pythefnos.

Pob hwyl!

Huw


S'mae, Huw?

Post 3

Arianwen

Pob hwyl gyda'r arholiad!


Ydych chi dal yma?

Post 4

BabbitCymru

Dwi newydd gyrraedd ac ymuno a'r we-fan. Faint o bobl sy'n defnyddio'r Gymraeg yma? Ai ni'n tri yw'r cwbl?

Dwi'n gobeithio'ch bod chi'n cael hwn...

Pob hwyl!


Ydych chi dal yma?

Post 5

Mycelium


Ni sylwais i ag allwn ni defnyddio Cymraeg yma. Ceisiais i 'sgryfennu ychydig o linellau yng Nghymraeg ar fym manlle bersonnol, ond cafodd e ei dynny gan y Mod Squad oherwydd oedd 'na gynnwys mewn iaith estron!


Ydych chi dal yma?

Post 6

Huw B

Shwmae Babbitcymru a Mycelium! Rwy' dal yma ond y gwir yw rwy' heb ymweld รข H2G2 am rai fisoedd. Siawns yn unig ydi hi fy mod i'n edrych ar fy nhudalen o fewn wythnos i chi'ch dau gadael neges. Yn rhannol oherwydd hyn does dim syniad 'da fi faint o siaradwyr Cymraeg sydd ar H2G2.

Mycelium - rwy'n synnu bod nhw wedi tynnu "rhai llinellau" yn Gymraeg oddiwrth dy hafan bersonol. Fe allai ddeall os nad ydyn nhw'n caniatau holl erthygl yn Gymraeg - Saesneg a Seisnig yw'r wefan a'r BBC yn gyffredinol, beth bynnag maent yn dweud - ond mae llawer o linellau i'w canfod mewn ieithoedd arall, hyd yn oed Klingon. Wyt ti wedi cwyno am hyn?

Rwy' am ail-afael yn y wefan yma, nid mewn ffordd fawr ond fe fyddai'n creu sawl erthygl yn Saesneg am bethau Gymreig.


Ydych chi dal yma?

Post 7

Mycelium


Nid yr iaith oedd y broblem, ond y ffaith bod 'na neb yna i cyfieithu'r llinellau i'w weld os oedd y cynnwys yn torri'r rheolau. Dywedon nhw byddai gorffod aros am cyfieithwr i weld fy nhudalen ond rown i ddim moen aros, felli newidais i fe. Rown i ddim moen gwastraffu fy egni gan cwyno gormod, a wnes i anghofio am yr holl beth tan i mi weld y negesau ar y tudalen hwn.

welai chi eto.


Key: Complain about this post

More Conversations for Huw B

Write an Entry

"The Hitchhiker's Guide to the Galaxy is a wholly remarkable book. It has been compiled and recompiled many times and under many different editorships. It contains contributions from countless numbers of travellers and researchers."

Write an entry
Read more